Math | car, automatic transport system, autonomous vehicle |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r car diyrrwr neu gar robotaidd yn fath o gerbyd sy'n cael ei yrru gan feddalwedd oddi fewn i'r car yn hytrach nag yn ddibynnol ar berson i'w yrru. Synhwyra'r amgylchedd o'i gwmpas gyda thechnolegau cyfoes fel radar, gps neu lidar; gall gyflymu, arafu a brecio a llywioi'r cerbyd heb i'r gyrrwr dynol wneud dim. Daethant i fodolaeth, fel prototeips arbrofol yn 2014, ac roedd yr unig gar masnachol a oedd ar gael yn fath o 'wennol' trefol, araf: tua 12 milltir (20.1 km/a) yr awr.[1]
Defnyddir radar i syhwyro beth sydd o amgylch y car yn ogystal â lidar, GPS, camerau goddefol, gweledol a synwyryddion uwchsonig. Mae'r meddalwedd yn dod a'r rhain at ei gilydd ac yn ceisio rhagweld llwybr cerbydau a gwrthrychau eraill, gan nafigeiddio'r cerbyd yn saff.[2][3] Drwy 'ddarllen' arwyddion a derbyn gwybodaeth real am y llwybrau maen nhw'n ei drafaelio, gallant uwchraddio'r wybodaeth ar gyfer ceir eraill. Hynny yw, uwchlwythir y wybodaeth newydd i'r cwmwl gan uwchraddio'r mapiau o fewn eiliadau.
Arbrofwyd gyda rhai elfennau o'r car diyrrwr yn y 1930au a'r 1940au.